2014 Rhif 1314 (Cy. 134)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014

                     NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2014/2015.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd pob benthyciwr am fenthyciad at gostau byw mewn amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei dderbyn.

 

 


2014 Rhif 1314 (Cy. 134)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014

Gwnaed                                    21 Mai 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       22 Mai 2014

Yn dod i rym                              1 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]):

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Awst 2014.

Cymhwyso

2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2014/2015.

Dehongli

3. Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“the Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;

ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2014/2015 o dan reoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998([3]);

ystyr “y benthyciwr” (“the borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2014/2015;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;

ystyr “Blwyddyn Academaidd 2014/2015” (“Academic Year 2014/2015”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ond cyn 1 Medi 2015;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act” ) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008([4]);

ystyr “y Dyddiad Ad-dalu” (“the Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi cael ei dderbyn naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag y bernir iddo ei dderbyn gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998([5]));

mae i “y Dyddiad Bodloni” (“the Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 9;

mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998 neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac

mae i “y Swm Penodedig” (“the Specified Amount”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6.

Y cymhwyster ar gyfer dileu

4. Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o’i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu yn yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).

Yr Amgylchiadau

5. Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw—

(a)     bod y benthyciwr wedi cael benthyciad at gostau byw; a

(b)     bod Gweinidogion Cymru o’r farn, o ran y benthyciwr, ar y Dyddiad Ad-dalu—

                           (i)    nad yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998; a

                         (ii)    nad oes ganddo gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu reoliadau o’r fath; a

                       (iii)    nad yw wedi cael unrhyw o’i atebolrwydd i dalu mewn cysylltiad â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru wedi ei ddileu o dan ddarpariaethau Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010([6]), Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2011([7]), Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2012([8]) neu Reoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2013([9]).

Y Swm Penodedig

6. Y Swm Penodedig ar gyfer dileu y mae rheoliad 4 yn cyfeirio ato yw’r swm lleiaf o’r canlynol—

(a)     £1,500;

(b)     yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.

Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu

7.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.

(2) At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.

(3) At ddibenion cyfrifo’r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998([10]).

Dileu

8. Yn yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r Dyddiad Ad-dalu.

9. Os oes unrhyw un neu ragor o’r Amgylchiadau yn rheoliad 5(b) heb ei fodloni neu eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r dyddiad y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni yn eu barn hwy (“y Dyddiad Bodloni”).

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

21 Mai 2014



([1])           1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21) ac Atodlen 11 iddi, adran 722 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1) ac Atodlen 6 iddi, adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p.14), adrannau 42 a 43 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p.8) ac Atodlen 7 iddi, adran 257 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 76 o Ddeddf Addysg 2011 (p.21), a pharagraff 6 o’r Atodlen i Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Gweithgareddau a Reoleiddir) (Diwygio) (Rhif 2) 2013/1881. Mae’r diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Addysg 2011 yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr sy’n dechrau cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012, ac eithrio mewn amgylchiadau a ragnodir.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5)) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p.8) ac O.S. 2005/1833 (Cy.149) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1660 (Cy.159)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 iddi.

([3])           Mae Gweinidogion Cymru yn talu benthyciadau at gostau byw mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2014/2015 yn unol â Rhan 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/3177) (Cy. 316).

([4])           2008 p.10.

([5])           Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad y bernir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei dderbyn yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/661, O.S. 2010/1010, O.S.2011/784, O.S. 2012/836, O.S. 2012/1309, O.S. 2013/607, O.S. 2013/388, O.S. 2013/1881, O.S. 2013/591 ac O.S. 2014/651.

([6])           O.S. 2010/1704 (Cy.164).

([7])           O.S. 2011/1654 (Cy.189).

([8])           O.S. 2012/1518 (Cy.201).

([9])           O.S. 2013/1396 (Cy.135).

([10])         Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn penderfynir ar y swm y bernir bod benthyciwr wedi ei ad-dalu ac felly’r swm y bernir ei fod yn dal yn daladwy yn unol â Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470), fel y’i diwygiwyd. Gweler yn benodol reoliadau 17, 29, 44 a 76.